2014 Rhif 123 (Cy. 13)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2013/46/EU yng Nghymru.

Mae rheoliad 2(3), (5) a (6) yn ei gwneud yn bosibl defnyddio proteinau llaeth geifr wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.

Mae rheoliad 2(4) yn gostwng lleiafswm y lefelau protein a ganiateir mewn fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysatau protein i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â fformiwla fabanod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2014 Rhif 123 (Cy. 13)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                22 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Ionawr 2014

Yn dod i rym                      28 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) ac adrannau 16(1)(e), 17(1) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([2])([3]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd([4]).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf  Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd([5]).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([6]), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC([8]) fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/46/EU;”.

(3) Yn rheoliad 8(2) (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod), ar ôl y geiriau “proteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu’r proteinau llaeth geifr”.

(4) Yn lle rheoliad 9 (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol) rhodder y rheoliad a ganlyn—

Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol

9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad II gan gymryd ystyriaeth o’r manylebau yn Atodiad V.

(2) Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi’i gweithgynhyrchu o’r hydrolysatau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II â’u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—

(a)   rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol i fodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy’n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a

(b)  rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a osodir yn Atodiad VI.”

(5) Yn rheoliad 15 (enwi fformiwla fabanod) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.

(6) Yn rheoliad 16 (enwi fformiwla ddilynol) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

 

22 Ionawr 2014



([1])   1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([2])   1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17(1) ac 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) hefyd gan baragraff 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

([3])   Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

([4])   O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

 

([5])   Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan adran 1(1) o Ddeddf 1999.

([6])   OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

([7])   O.S. 2007/3573 (Cy.316), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2602 (Cy.228). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

([8])   OJ Rhif L 401, 30.12.2006, t.1. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2013/46/EU (OJ Rhif L 230, 29.08.2013, t.16).